Lona (Baum)LEWISDymuna Sandra, Dylan a Gwyn, teulu y ddiweddar Lona ( Baum) Lewis, Gorllwyn 36 Rhydfadog, Deiniolen ddatgan ein gwerthfawrogiad am pob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atom yn ystod ein profedigaeth drist yn ddiweddar.
Carwn ddiolch i'r canlynol am eu gwasanaeth gwerthfawr a theimladwy yn yr eglwys ac ar lan y bedd, i'r Canon Idris Thomas, Y Parchedig Dewi Tudur Lewis, a'r Parchedig Euron Hughes am y deyrnged ac i Alaw, Anna, Osian, Sion, Erin a Tomos Alun am eu teyrnged hwythau i gofio am yr hwyl a chwerthin hefo Nain Lona, hefyd diolch i'r organyddes Annette Bryn Parri am ei chyfraniad arbennig wrth yr organ.
Diolch i'r ymgymerwyr E.W Pritchard, Stryd Fawr, Llanberis am eu trefniadau trylwyr ac urddasol iawn.
Derbyniwyd rhoddion o £1,210 yn ddiochgar iawn er cof am Lona tuag at Eglwys Crist Llandinorwig Deiniolen.
Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates